spacer
spacer search

Maenclochog a-we
Ar y we/Online

Search
spacer
Newyddion/Newsflash
Mam-gu, Siân Hwêl a Naomi
Hanes a Hudoliaeth Bro Maenclochog

Grandma, Vicar Howell and Madame Tussauds
Past and Present Magic of Bro Maenclochog

nawr ar werth / now on sale
header
Porwch/Browse
Hafan/Home
Newyddion/News
Links
Cyswllt/Contact Us
Chwlio/Search
Gwe Awe/Web tips
Web Cam
 
Hafan/Home arrow Newyddion/News arrow Diweddaraf/Latest arrow BRWYDR Y PRESELAU

BRWYDR Y PRESELAU Print
Clawr Brwydr y Preselau

CYHOEDDI CYFROL AM STORI RYFEDDOL DIOGELU CYMUNEDAU CYMRAEG RHAG RHAIB MILITARIAETH

‘Brwydr y Preselau - yr ymgyrch i ddiogelu bryniau ‘sanctaidd’ Sir Benfro 1946-48’ gan Hefin Wyn.

Cyhoeddir gan Clychau Clochog.

Pris £6 95 tud. 200

Dyddiad cyhoeddi: 28/11/08

“Mae’n stori cwbl ryfeddol.”

Dyna farn Hefin Wyn wedi iddo ymchwilio i gefndir hanes y frwydr i gadw’r Preselau rhag cael eu meddiannu gan y Swyddfa Ryfel ym 40au’r ganrif ddiwethaf.

“Yr amcan oedd troi dros 200 o ffermwyr o’u cartrefi a sefydlu’r Preselau’n faes ymarfer milwrol parhaol. Petai hynny wedi digwydd byddai’r effaith ar fywyd yr ardal yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn drychinebus a thorcalonnus,” meddai.

Ond o fewn ychydig wythnosau wedi’r cyhoeddiad ym mis Tachwedd 1947 ffurfiwyd Pwyllgor Diogelu’r Preselau o dan arweiniad y gweinidogion Anghydffurfiol, yr ysgolfeistri ac ambell ŵr cyhoeddus hirben.

Penodwyd y Parchg Mathias Davies, a oedd hefyd yn gynghorydd sir blaenllaw, yn gadeirydd a Titus Lewis BSc, prifathro Ysgol Maenclochog, yn ysgrifennydd. Ymhlith y gweinidogion eraill oedd yn aelodau amlwg o’r Pwyllgor roedd y Parch’ion Moelwyn Daniel, Llewelyn Lloyd Jones, Joseph James, Tom Rees ac O. Morley Lewis.

Y penderfyniad cyntaf a wnaed oedd bwrw ati i gyflogi bargyfreithiwr i ddadlau’r achos dros ddiogelu’r Preselau ger bron adrannau’r llywodraeth ac mewn ymchwiliad cyhoeddus petai rhaid. Dr E. Roland Williams, meddyg teulu lleol, oedd yn gyfrifol am y cynnig hwnnw ac awgrym Caleb Rees, y cyn-arolygwr ysgolion, oedd y byddai angen cyfrwystra’r cadno, archwaeth yr hwch a brwdfrydedd sbaniel i fynd â’r maen i’r wal.

“Gosodwyd y frwydr ar seiliau cadarn o’r dechrau ac roedd radicaliaeth Anghydffurfiol yn ffactor amlwg wrth fwrw ati i ddiogelu’r gwerthoedd gorau. Roedd y dewis o’r gair ‘diogelu’ yn hytrach nag ‘amddiffyn’ yn arwyddocaol am fod rhywbeth sy angen ei ddiogelu yn amgenach na rhywbeth sy angen ei amddiffyn mae’n debyg. Roedd hefyd yn fodd o osgoi ieithwedd gor-gyfarwydd yn y maes rhyfela gan bwysleisio o’r cychwyn nad yr un oedd teithi meddwl yr ymgyrchwyr ag eiddo’r ‘gelyn’ sef y Swyddfa Ryfel yn y cyswllt hwn,” meddai’r awdur.

Mae’r straeon am wrhydri’r Parchg Joseph James a’r Parchg R. Parri Roberts yn rhan o draddodiad llafar yr ardal ers tro byd. Bygythiodd y naill feddiannu un o’r bythynnod a gwrthod gadael nes ei garcharu petai rhaid a dywedodd y llall wrth y cadfridogion rhyfel mai magu eneidiau a wneir ar y Preselau pan ddywedwyd wrtho nad oedd yna fawr o werth i’r tir anial heblaw i besgi ŵyn a lloi.

Roedd gan Waldo Williams, y bardd, ran yn yr ymgyrch hefyd, er ei fod yn byw yn alltud yn Lyneham, Wiltshire, ar y pryd. O fewn ychydig wythnosau i’r cyhoeddiad ymddangosodd y gerdd ‘Preselau’ ar dudalen flaen Y Faner, yr wythnosolyn cenedlaethol Cymraeg. Tyfodd y ddwy linell ‘Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw’ yn drymlwythog eu harwyddocâd pan ddeallwyd mai’r ‘bwystfil’ yn y cyswllt hwn oedd y Swyddfa Ryfel.

Eto, er nad yn amlwg, roedd rhan D. J. Williams, y cenedlaetholwr o Abergwaun, yn allweddol hefyd am ei fod yn y cefndir yn procio a llythyru’n ddi-baid.

“Does dim dwywaith mai fe oedd y cadfridog cudd yn llunio’r tactegau. Daethpwyd o hyd i lythyr a anfonodd at y Parchg R. Parri Roberts yn annog defnyddio’r ddadl grefyddol am nad oedd modd gwyrdroi honno o gymharu â’r dadleuon eraill. A hynny sydd yn esbonio natur ryfeddol cyfarfod a gynhaliwyd ym Mrynberian pan gododd un gweinidog ar ôl y llall, yn ogystal â nifer o leygwyr, i bwysleisio ‘sancteiddrwydd’ y mynyddoedd.

“Roedd hynny ddiwrnod neu ddau ar ôl i lythyr D. J. gyrraedd ‘Parri Bach’. Pwysleisiwyd cysylltiadau crefyddol y Preselau mor bell nôl â’r cyfnodau cynhanes ar sail y 38 o henebion oedd ar y llethrau. Nodwyd bod y cerrig gleision wedi’u cludo i Gôr y Cewri ar Wastadedd Caersallog i ffurfio crud gwareiddiad y Saeson. Ar sail hynny dadleuwyd na fyddai’r un Sais gwâr am anrheithio ardal lle’r oedd ganddo yntau gysylltiadau hanesyddol.

“Yn wir, ymddengys mai dyna’r ddadl a wnaeth droi’r drol neu o leiaf roedd yn haws i’r Swyddfa Ryfel a’r llywodraeth Lafur ildio ar y sail honno na chydnabod fod nerth y gwrthwynebiad yn drech na nhw. Erbyn gwanwyn 1948 roedd y frwydr wedi’i hennill.

“Mae’n stori cwbl ryfeddol ac yn stori o lwyddiant yn diogelu cymunedau o gymharu â’r hyn a gollwyd yn Epynt ychydig flynyddoedd ynghynt ac yn Nhryweryn yn ddiweddarach. Am ei bod yn stori o lwyddiant ymddengys nad oes llawer yn gwybod amdani. Ein tuedd ni’r Cymry yw ymdrybaeddu yn ein methiannau ers dienyddio Llywelyn yng Nghilmeri yn 1282 ond mae’n bryd i ni arddel hyder o’r newydd ac edrych ar ein llwyddiannau prin,” meddai Hefin Wyn.

Roedd hi’n frwydr a ymladdwyd gan Sir Benfro gyfan am fod y Cyngor Sir yn gwbl gefnogol ac adroddiad o’i eiddo yn rhybuddio y gallai’r hyn na lwyddodd y Normaniaid na’r Ffleminiaid ei wneud dros y canrifoedd ddigwydd dros nos petai’r Preselau’n cael eu hildio. Roedd nifer o gynghorau de’r sir yn gefnogol hefyd am eu bod am ddiogelu glendid y cyflenwadau dŵr roedden nhw’n ei gael o’r llechweddau.

Ond serch y llwyddiant drigain mlynedd nôl ymddengys fod yna frwydr arall i’w hymladd heddiw ar hyd y Preselau i ddiogelu ffordd o fyw a diwylliant cynhenid. Bellach dim ond dau weinidog amser llawn sydd yn yr ardal ac â’n gynyddol anodd i gymathu’r mewnfudwyr wrth i laweroedd o ieuenctid symud o’r ardal ar drywydd swyddi a gyrfaoedd bras.

Nôl yn y 1940au roedd dros 90 y cant o boblogaeth ardaloedd Mynachlog-ddu a Maenclochog yn medru’r Gymraeg a llawer yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas. Ond yn ôl y cyfrifiad diweddaraf dim ond 46 y cant sy’n medru’r iaith yn rhugl tra bo 18 y cant yn meddu ar rywfaint o sgiliau a 35 y cant yn nodi nad oes ganddyn nhw unrhyw ddirnadaeth o’r Gymraeg.

Yn wyneb hynny penderfynwyd cyfieithu’r gyfrol i’r Saesneg ar y dybiaeth ei bod yn bwysig rhoi’r cyfle i bawb sy am fwrw eu gwreiddiau yn yr ardal i ddysgu am eu hetifeddiaeth.

Cyhoeddir ‘Brwydr y Preselau – yr ymgyrch i ddiogelu bryniau ‘sanctaidd’ Sir Benfro 1946-48’/ ‘Battle of the Preselau – the campaign to safeguard the ‘sacred’ hills of Pembrokeshire 1946-48’, ar nos Wener, 28 Tachwedd, yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, yng nghwmni’r Athro Hywel Teifi Edwards a’r baledwr Huw George am 7 30 p.m..

Does dim dwywaith, mae’n stori cwbl, cwbl ryfeddol.

Cyhoeddir gan Clychau Clochog gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri.

< Prev   Next >
spacer

 
Copyright 2005 Gwe Preseli. All rights reserved.
spacer