|
Pwy ond yr Athro Hywel Teifi Edwards fedrai gyplysu Barack Obama a Waldo yn yr un gwynt wrth sôn am Frwydr y Preselau? Wrth annerch torf luosog yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, ar nos Wener, 28 Tachwedd, dywedodd yr ysgolhaig o Langennech fod geiriau arlywydd newydd America, wrth iddo gydnabod ei fuddugoliaeth, - 'yes, we can' - yn atseinio agwedd arweinwyr 'Brwydr y Preselau' drigain mlynedd nôl.
Ceisiai Barack Obama roi'r un hyder i'w bobl i oresgyn pob adfyd ag y gwnâi pobl fel y Parchedig Mathias Davies, Titus Lewis a'r Parchedig Llewelyn Lloyd Jones yn yr ardaloedd hyn yn 1946-47 pan benderfynwyd gwrthwynebu'r bwriad o droi'r mynyddoedd yn feysydd ymarfer milwrol parhaol.
Yn yr un modd dywedodd Hywel Teifi fod llinellau Waldo -'Cadwn y mur rhag y bwystfil, Cadwn y ffynnon rhag y baw' wedi gwneud i bobl sylweddoli pa mor werthfawr oedd eu hetifeddiaeth a bod ganddyn nhw rywbeth amhrisiadwy i'w warchod.
Aeth yn ei flaen i ddyfynnu esboniad D. J. Williams ynghylch ei ymlyniad at ei filltir sgwâr a pham ei fod yn 'Shirgar anobeithiol'. Yn yr un gwynt dyfynnodd ran o ysgrif adnabyddus Iorwerth Peate yn ymweld ag Epynt wrth i'r teuluoedd baratoi i ymadael er mwyn rhoi eu tiroedd yn nwylo'r fyddin.
Cyngor un hen wraig i Guradur Amgueddfa Sain Ffagan oedd iddo ddychwelyd i Gaerdydd ar fyrder am fod y byd wedi dod i ben yn ei thyb hi ar y bryniau ym Mrycheiniog. Ni ddigwyddodd hynny yng nghyd-destun y Preselau.
Yr unig ran o'r llyfr 'Brwydr y Preselau, yr ymgyrch i ddiogelu bryniau 'sanctaidd' Sir Benfro 1946-1948', o eiddo Hefin Wyn, a ddyfynnwyd gan Hywel Teifi oedd disgrifiad Jennie Howells o'r hyn oedd hanfod bugeilia ar Foel Fedw.
Roedd y ffaith y gellid fod wedi colli'r ffordd honno o fyw yn codi arswyd a phrin fod yna ddarn o lenyddiaeth lafar odidocach yn holl lenyddiaethau Ewrop. Mae'n werth ei ddyfynnu eto:
"Na, we ddim cystel hwyl ar y cneifo'r flwyddyn honno. A synna i'n cofio'n iawn os wên ni wedi pwrny'r defed cyn neu ar ôl y gneifad. Ond bydde tipyn o hwyl yng nghwmni bois y gwelleife ch'wel a'r rheiny'n poeri sudd baco i bobman, ac yn siarad am grafishginod a channwyll corff i dreial hala ofan arnon ni'r rhai ifanc. A bydde Gwilym Pantygraig wedyn yn sbaddu wên gwryw â'i ddannedd; dala'r wên lan, torri blân y pwrs, gwasgu'r bôn a tynnu'r cerrig â'i ddannedd a'u poeri nhw i'r cŵn i fyta. Fel na wedd hi in ganol y rhialtwch a'r gofid ch'wel".
Cafwyd cyfraniad gloyw hefyd gan y Parchedig Ieuan Davies, cofiannydd y Parchedig Joseph James, Pisgah, Llandysilio a Bethesda, Llawhaden, ac adroddodd sawl stori am y cyfeillgarwch chwedlonol rhwng Joe a Parri Bach sef y Parchedig R. Parri Roberts, Mynachlog-ddu, a fu'n allweddol o ran rhoi arweiniad i drigolion y bryniau.
Diddorol oedd gwrando ar atgofion plentyndod Ann Griffiths, Hedd Parri Roberts, Parchedig Eifion Lewis, Seiriol Davies a John Williams am gyfraniad eu tadau i'r frwydr. A'r un mor gyffrous oedd datganiad Huw George o ryfelgri a baled a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod, y naill gan y Parchedig E. Llwyd Williams a'r llall gan Lloyd Davies.
Terfynwyd y cyfarfod cofiadwy wrth i'r awdur siarsio aelodau iau'r gynulleidfa i fynd ati yn 2048 i drefnu dathliadau canmlwyddiant ennill y frwydr gan obeithio y bydd y Gymraeg yn para'n amlwg ymhlith y gweithgareddau. |